bgw. Eseia 14:15-20
bgw. Eseia 14:15-20
 

Ezekiel 32

Cân i alaru ar ôl y Pharo

1Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis,
32:1 diwrnod cynta'r deuddegfed mis Mawrth 3, 585 CC mae'n debyg
a dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd:
2“Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho:

‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd,
ond ti fwy fel draig yn y môr.
Ti'n sblasio yn y ffosydd,
ac yn corddi'r dŵr gyda dy draed
a baeddu'r ffosydd.’

3Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud:

Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti
(bydd tyrfa enfawr o bobl yno),
ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.
4Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych,
a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti,
a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat.
5Bydd dy gig ar y mynyddoedd
a'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.
6Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di,
yr holl ffordd i ben y mynyddoedd,
a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.
7Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr,
ac yn diffodd y sêr i gyd.
Bydd cwmwl yn cuddio'r haul,
ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.
8Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd,
a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,”
meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

9“Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw. 10Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”

11Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.

12Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion
ladd dy fyddin enfawr di –
nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd.
Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft,
a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.
13Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr
yn cael eu lladd i gyd.
Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto
gan draed dynol na charnau anifeiliaid.
14Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,
a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.

“Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

15Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch
ac yn dinistrio popeth sydd ynddi;
Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno,
byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r Arglwydd.

16“Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

Byddin yr Aifft yn mynd i'r Pwll b

17Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis,
y pymthegfed diwrnod o'r un mis Mawrth 17, 585 CC mae'n debyg
dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd.
18“Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’

19Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na!
Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.
20Byddi'n gorwedd gyda phawb arall
sydd wedi eu lladd mewn rhyfel!
Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw;
bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.
21Bydd arweinwyr grymus y gwledydd
yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr:
‘Dyma nhw wedi cyrraedd,
i orwedd gyda'r paganiaid eraill
sydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’

22“Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. 23Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!

24“Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! 25Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!

26“Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. 27Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi eu claddu'n anrhydeddus gyda'i harfau – gyda'r cleddyf wedi ei osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. 28A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!

29“Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll.

30“Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll.

31“Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd gan y cleddyf,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd. 32“Er fy mod wedi eu defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM